GOSOD SYLFAENI YR ADFYWIAD ECONOMAIDD

Report this content

Yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Gyngor Sgiliau Sector Lantra, mae’n rhaid i fusnesau’r tir a’r amgylchedd yng Nghymru feithrin sgiliau o’r radd flaenaf er mwyn llwyddo a chefnogi adfywiad economaidd y genedl yn llawn. Mae’r adroddiad, dan y teitl Asesiad Sgiliau Cymru, yn nodi y dylai busnesau Cymru recriwtio bron i 26,000 o weithwyr tir a’r amgylchedd newydd ar bob lefel cymhwyster dros y ddegawd nesaf dim ond er mwyn cynnal lefelau presennol y gweithlu. Er gwaethaf y gweithwyr newydd hyn, mae’n rhaid i’r 18,300 o fusnesau Cymreig a’r 90,750 o weithwyr cyflogedig a amcangyfrifiwyd ddatblygu eu sgiliau trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus er mwyn llwyddo mewn marchnad gystadleuol. Yn ôl Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru Lantra: “Mae Asesiad Sgiliau Lantra yn dadansoddi anghenion presennol a’r dyfodol o ran sgiliau, yn dangos sut mae swyddi’n newid, yn nodi’r sgiliau newydd a fydd yn ofynnol, ac yn archwilio newidiadau sylweddol mewn cyflogaeth. Mae’n ddull pwysig ar gyfer gwneuthurwyr polisi ac ymchwilwyr sy’n gyfrifol am ddatblygu polisïau ar sgiliau a’n sector yn seiliedig ar dystiolaeth.” Mae’r ymchwil hwn yn cydnabod beth sy’n ysgogi newid a’i effaith sylweddol ar y sector ac ar gyflogaeth. Mae’r pynciau hyn yn cynnwys newid byd-eang yn yr hinsawdd, amddiffyn yr amgylchedd yn well, lleihau’r defnydd o danwydd ffosil a’r galw cynyddol am fwyd, ynni a dŵr. Er mwyn mynd i’r afael a’r materion byd-eang hyn o ddifrif, bydd angen i fusnesau a gweithwyr cyflogedig weithredu ar y lefel fyd-eang hon. Ychwanegodd Kevin “Mae prif gasgliadau Asesiad Sgiliau Cymru yn cefnogi’r prif negeseuon o astudiaethau ymchwil blaenorol – y newidiadau cyflym yn y sector, yr angen i recriwtio gweithwyr newydd o bob oed ar frys, yr her o ddatblygu sgiliau’r gweithlu a gweithio gyda busnesau er mwyn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau technolegol. “Mae ein hymchwil yn dangos y bydd cyfleoedd i unigolion o bob cefndir addysgol sydd â gwahanol lefelau o sgiliau. O’r 26,000 o weithwyr newydd a amcangygrifiwyd, bydd yr angen mwyaf mewn galwedigaethau rheoli, galwedigaethau gwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid a galwedigaethau crefftau medrus. “Dros y degawd nesaf, bydd cyfleoedd ar gael yn niwydiannau’r tir a’r amgylchedd i weithwyr newydd a rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector. Mae’n gyfle perffaith i gael gyrfa newydd yn gwneud rhywbeth rydych wir yn ei fwynhau, ond er mwyn llwyddo go iawn, mae’n rhaid i’r diwydiant cyfan ddal ati i wella eu sgiliau a rheoli busnesau llwyddiannus sy’n gwneud elw.” Mae Asesiad Sgiliau Cymru Lantra ar gael i’w lawrlwytho yn www.lantra.co.uk/research. Am fanylion ar yrfaoedd yn niwydiannau’r tir a’r amgylchedd ewch i www.lantra.co.uk/careers. Am fwy o wybodaeth am waith Lantra, ewch i www.lantra.co.uk. DIWEDD CYHOEDDWYD GAN: Swyddfa’r Wasg Lantra Cyswllt: Samuel Zelmer-Jackson, Cydgysylltydd Cysylltiadau Cyhoeddus Ffôn: 02476 858 418 neu e-bostiwch media@lantra.co.uk Am ymholiadau Cymraeg cysylltwch â: Lantra Llanfair-ym-Muallt Ffôn: 01982 552646 neu e-bostiwch: wales@lantra.co.uk NODIADAU I OLYGYDDION: Dilynwch Lantra ar Twitter yn www.twitter.com/LantraSSC Gwybodaeth am yr Asesiad Sgiliau • Mae adroddiad yr Asesiad Sgiliau yn nodi’r bylchau yn sgiliau’r gweithlu presennol ac yn nodi’r anghenion sgiliau tebygol nes 2020. • Bob blwyddyn, mae’n darparu gwybodaeth hanfodol am y sector fel y gall y llywodraeth, cyflogwyr, unigolion a phawb arall fuddsoddi yn y sgiliau cywir er mwyn ffynnu a thyfu. • Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn cyflwyno ymchwil o Gymru a’r Deyrnas Unedig ar yr holl ddiwydiannau yn y sector tir a’r amgylchedd. Ffermio yw’r diwydiant mwyaf ac mae’n cynrychioli tua 40% o’r sector o ran cyflogaeth, ond mae’r Asesiad hefyd yn cynnwys meysydd fel tirlunio, garddwriaeth, peirianneg tir, lles anifeiliaid ac 11 o ddiwydiannau eraill. Gwybodaeth am Lantra • Lantra yw’r Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer diwydiannau’r tir a’r amgylchedd, ac mae’n gweithio er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant, y cymwysterau, y sgiliau a’r wybodaeth sydd ei angen ar y diwydiannau hyn ar gael iddynt. • Mae Lantra’n cynrychioli 17 o ddiwydiannau: da byw a chnydau amaethyddol; gofal anifeiliaid; technoleg anifeiliaid; dyframaeth; cadwraeth amgylcheddol; ceffylau; pedoli; ffensio; rheoli pysgodfeydd; blodeuwriaeth; rheoli adar hela a bywyd gwyllt; peirianneg tir; garddwriaeth, tirlunio a thyweirch chwaraeon; garddwriaeth gynhyrchu; coed a phren a gweithgareddau milfeddygol. • Trwy gydweithio â’r sector, mae Lantra’n arwain gwaith ymchwil ar faterion sgiliau ac anghenion busnes, yn gosod safonau cenedlaethol ac yn datblygu cymwysterau er mwyn diwallu anghenion busnesau modern a helpu busnesau i dyfu drwy sgiliau. • Am fwy o wybodaeth ewch i www.lantra.co.uk.