Ysu i fod yn brentis helfeydd a bywyd gwyllt
Nid oes rhaid croesi Clawdd Offa i hyfforddi fel prentis helfeydd a bywyd gwyllt bellach gan fod colegau yng Nghymru yn cynnig y Brentisiaeth hon.
Bellach, ar ôl bod ar gael mewn colegau yn Lloegr yn unig, mae’r hyfforddiant hwn ar gael i brentisiaid yng nghampws Glynllifon, Coleg Llandrillo. Meddai’r prentis helfeydd a bywyd gwyllt, Mark Casey, o Ynys Môn sy’n astudio Saethu a Physgota yng Nglynllifon: “Rwy’n hapus iawn gyda’r Brentisiaeth yng Nglynllifon. Byddai wedi bod yn anodd iawn i mi ennill y cymhwyster pe na bai’n cael ei ddarparu’n lleol.” Nid yn unig y gall cyflogwyr helfeydd a bywyd gwyllt yng Nghymru elwa ar gael prentisiaid yn astudio’n agosach i’r gwaith, ond mae Rhaglen Recriwtiaid Newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn cynnig cymhorthdal cyflog o £50 yr wythnos tan 31 Rhagfyr 2010. Meddai Rhys Williams o gampws Glynllifon: “Mae’r cyflogwyr wedi manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn i addysgu eu prentisiaid yng Nghymru. A ninnau’n goleg blaenllaw ym maes diwydiannau’r tir, rydym yn hapus iawn i allu diwallu anghenion y diwydiant.” Dywed Sarah Gould o Lantra sy’n gweithio gyda busnesau helfeydd a bywyd gwyllt yng Nghymru: “Mae prentisiaethau yn ffordd ragorol o ennill profiad ymarferol gwych tra’n ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol yr un pryd. Mae gorfod teithio milltiroedd i wneud elfen theori y Brentisiaeth wedi golygu bod llawer o bobl wedi troi eu cefn ar y cyfle, felly gobeithio y bydd hyn yn annog mwy i ddechrau ar yrfa ym maes helfeydd a bywyd gwyllt yng Nghymru.” Am ragor o wybodaeth, ewch i www.lantra.co.uk/standards-and-qualifications neu cysylltwch â champws Glynllifon, Coleg Llandrillo ar 01286 830261 neu e-bost jones13j@llandrillo.ac.uk. DIWEDD Cyhoeddwyd gan: Vicky Brewin, Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu Ffôn: 02476 858 417, e-bost wales.media@lantra.co.uk. Lantra Mae Lantra, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer yr amgylchedd a diwydiannau’r tir, wedi’i drwyddedu gan lywodraeth y DU i hyrwyddo agenda newydd ym maes sgiliau, hyfforddiant a datblygu busnes. Yng Nghymru, mae’n cynrychioli dros 18,500 o fusnesau, ar draws 17 o ddiwydiannau, ac mae 99% ohonynt yn ficrofusnesau sy’n cyflogi llai na deg o bobl, gyda 94% yn cyflogi pedwar neu lai. Mae eu 85,000 o weithwyr cyflogedig yn cynrychioli 7.5 y cant o holl weithlu’r sector amgylchedd a diwydiannau’r tir yn y DU. Am fwy o wybodaeth ewch i www.lantra.co.uk.
Tags: