‘Robust arrangements’ for quality in University of Wales Trinity Saint David, according to UK’s independent quality body

Report this content

English:

Embargoed until 00.01 Friday 17 June 

Press Release from QAA 

University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) has ‘robust arrangements in place for securing academic standards, managing academic quality, and for enhancing the student experience’, according to a review by the Quality Assurance Agency for Higher Education (QAA). The review commended the University’s achievements in several areas such as data-informed decision making and teaching and learning enhancement. 

The review was undertaken by a team of three independent reviewers, who were appointed by QAA and took place online between 21 and 24 March 2022. Overall, the review panel concluded that UWTSD meets the requirements of the European Standards and Guidelines (ESG) Part 1 on internal quality assurance, and that it meets the relevant baseline regulatory requirements of the Quality Assessment Framework for Wales. 

Its commendations include: 

  • The University’s ‘Student Hwb’ provides students with a comprehensive and accessible electronic contact and information point that effectively supports their learning experience. 

  • The wide range and impactful use of digital training, pedagogy and support developed during the pandemic continues to enhance the staff and student experience. 

  • The University’s data dashboard provides staff with a wide range of accurate, useful and accessible data, enabling the University to comprehensively and effectively monitor its performance in relation to the standards of its awards and the quality of the student learning experience. 

Professor Catrin Thomas, UWTSD’s Deputy Vice-Chancellor said: “The University is delighted that QAA has found that our arrangements for securing academic standards, managing academic quality, and for enhancing the student experience are robust. This is the result of excellent teamwork across the University involving our academic and professional teams working with the Students’ Union.  We value the recommendations of the QAA’s review to ensure continuous improvements in our processes and practices”.   

Professor Mirjam Plantinga, UWTSD’s Pro-Vice-Chancellor for Academic Experience added: “We welcome the QAA’s assessment of our academic arrangements and are delighted to receive commendations for the ‘Student Hwb’ which is highly valued by our students. The student experience is central to our planning and delivery. This was particularly evident in our approach to the pandemic and the way in which we transformed our delivery to provide novel opportunities to enhance our campus experiences”. 

QAA’s report also makes several recommendations, asking the University to: 

  • develop a robust system that ensures that all current and future postgraduate research students undertaking or supporting teaching undergo appropriate training 

  • develop a cohesive strategic approach to improve highly-skilled professional employability outcomes across all programmes 

  • involve students from collaborative partner institutions in the development of teach-out plans when closing courses. 

Ends 

Notes to Editor: 

  1. For more information, please contact Kevin McStravock, QAA’s PR, Press and Communications Officer on k.mcstravock@qaa.ac.uk

  1. The University of Wales Trinity Saint David review outcome will be available at https://www.qaa.ac.uk/reviewing-higher-education/quality-assurance-reports/University-of-Wales-Trinity-Saint-David from Friday 17 June. It is a Quality Enhancement Review (QER). QER provides quality assurance and supports quality enhancement, assuring governing bodies, students and the wider public that providers meet the requirements of the Higher Education Funding Council for Wales. QER assesses providers against agreed baseline regulatory requirements and the European Standards and Guidelines. More information is available at https://www.qaa.ac.uk/reviewing-higher-education/types-of-review/quality-enhancement-review.  

  1. For 2021-22, the scope of QERs focused on quality assurance in line with the Higher Education Funding Council for Wales (HEFCW)'s changes to external quality assurance requirements in response to the COVID-19 pandemic. As a result, QAA published an addendum to accompany the QER handbook which explains the adaptations to the method delivery. For 2021-22, providers have the opportunity to engage with QAA separately on quality enhancement. 

  1. There are three categories of judgement for QER: ‘meets these requirements’, ‘meets them with conditions’, or ‘does not meet requirements’. UWTSD has obtained the highest judgement available through the QER process. 

  1. The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) was formed on 18 November 2010 through the merger of the University of Wales, Lampeter and Trinity University College, Carmarthen, under Lampeter's Royal Charter of 1828. In 2013, Swansea Metropolitan University (SMU) became part of UWTSD; with Coleg Sir Gâr (CSG) in 2013-14 and Coleg Ceredigion (CC) in 2014-15 becoming dual-sector partners, forming the UWTSD Group. Since 2014, UWTSD has been awarding its own awards, rather than those of the University of Wales. 

  1. The expert team that reviewed UWTSD comprised Professor Diane Meehan, Dr Katie Thirlaway and Mr Matthew Kitching (student reviewer).  

  1. QAA (The Quality Assurance Agency for Higher Education) is a charity and the UK’s independent body entrusted with monitoring and advising on standards and quality in UK higher education. We work with and on behalf of our members across all four nations of the UK and build international partnerships to enhance and promote the reputation of UK higher education worldwide. More information on QAA in Wales is available at https://www.qaa.ac.uk/about-us/where-we-work/our-work-in-wales.  

Cymraeg:

Mae 'trefniadau cadarn' ar gyfer ansawdd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn ôl corff ansawdd annibynnol y DU

Embargo tan 00.01 dydd Gwener 17 Mehefin 

Datganiad i'r wasg gan QAA 

Mae gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCyDDS) ‘drefniadau cadarn ar waith ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd, ac ar gyfer gwella profiad myfyrwyr’, yn ôl adolygiad gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA). Roedd yr adolygiad yn canmol cyflawniadau'r Brifysgol mewn sawl maes; e.e. gwneud penderfyniadau ar sail data a gwella addysgu a dysgu. 

Cynhaliwyd yr adolygiad gan dîm o dri adolygydd annibynnol, a benodwyd gan QAA, ac fe’i cynhaliwyd ar-lein rhwng 21 a 24 Mawrth 2022. Yn gyffredinol, daeth y tîm i’r casgliad fod PCyDDS yn diwallu gofynion Rhan 1 y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) o ran sicrhau ansawdd mewnol, a'i bod yn ateb gofynion rheoliadol sylfaenol perthnasol y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru. 

Mae’r ganmoliaeth gan yr adolygwyr yn cynnwys y canlynol: 

  • Mae ‘Hwb Myfyrwyr’ y Brifysgol yn darparu pwynt cyswllt, ynghyd â gwybodaeth electronig gynhwysfawr a hygyrch i fyfyrwyr sy'n cefnogi eu profiad dysgu yn effeithiol. 

  • Mae’r ystod eang a’r defnydd effeithiol o hyfforddiant, addysgeg a chymorth digidol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig yn parhau i gyfoethogi profiad staff a myfyrwyr. 

  • Mae dangosfwrdd data'r Brifysgol yn darparu ystod eang o ddata cywir, defnyddiol a hygyrch i staff, gan alluogi'r Brifysgol i fonitro eu perfformiad yn gynhwysfawr ac yn effeithiol o ran safonau eu dyfarniadau ac ansawdd profiad dysgu myfyrwyr. 

Meddai’r Athro Catrin Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor PCyDDS: “Mae'r Brifysgol wrth ei bodd bod QAA wedi canfod bod ein trefniadau ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd, ac ar gyfer gwella profiad myfyrwyr yn gadarn. Mae hyn yn ganlyniad i waith tîm rhagorol ar draws y Brifysgol, yn cynnwys ein timau academaidd a phroffesiynol yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr.  Rydym yn gwerthfawrogi argymhellion adolygiad QAA i sicrhau gwelliannau parhaus yn ein prosesau a'n harferion”.   

Ychwanegodd yr Athro Mirjam Plantinga, Is-Ganghellor Cynorthwyol Profiad Academaidd PCyDDS: “Rydym yn croesawu asesiad QAA o'n trefniadau academaidd ac yn falch iawn o dderbyn canmoliaeth am yr 'Hwb Myfyrwyr' sy'n rhywbeth y mae ein myfyrwyr yn gosod cryn werth arno. Mae profiad myfyrwyr yn ganolog i'n cynllunio a'n darpariaeth. Roedd hyn yn arbennig o amlwg yn ein hagwedd at y pandemig a’r ffordd yr aethom ati i drawsnewid ein darpariaeth i gynnig cyfleoedd newydd i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ar ein campysau”. 

Mae adroddiad QAA hefyd yn gwneud nifer o argymhellion, gan ofyn i'r Brifysgol wneud y canlynol: 

  • datblygu system gadarn sy’n sicrhau bod holl fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig cyfredol ac yn y dyfodol sy’n ymgymryd ag addysgu neu’n cynorthwyo ag addysgu yn derbyn hyfforddiant priodol 

  • datblygu dull strategol cydlynol i wella deilliannau cyflogadwyedd proffesiynol ar draws pob rhaglen 

  • cynnwys myfyrwyr o sefydliadau partner cydweithredol yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer trosglwyddo addysgu i’r sefydliadau hynny wrth gau cyrsiau. 

Gorffen 

Nodiadau i'r Golygydd: 

  1. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Kevin McStravock, Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus QAA ar k.mcstravock@qaa.ac.uk

  1. Bydd canlyniad adolygiad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gael yn https://www.qaa.ac.uk/reviewing-higher-education/quality-assurance-reports/University-of-Wales-Trinity-Saint-David o ddydd Gwener 17 Mehefin. Adolygiad Gwella Ansawdd (QER) Mae QER yn darparu sicrwydd ansawdd ac yn cynorthwyo gwella ansawdd, gan roi sicrwydd i gyrff llywodraethu, myfyrwyr a'r cyhoedd yn ehangach bod darparwyr yn diwallu gofynion Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae QER yn asesu darparwyr yn erbyn gofynion rheoliadol sylfaenol y cytunwyd arnynt, ynghyd â Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn https://www.qaa.ac.uk/reviewing-higher-education/types-of-review/quality-enhancement-review.  

  1. Ar gyfer 2021-22, roedd cylch gorchwyl Adolygiadau Gwella Ansawdd (QER) yn canolbwyntio ar sicrhau ansawdd yn unol â newidiadau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o ran gofynion sicrhau ansawdd allanol mewn ymateb i bandemig COVID-19. O ganlyniad, cyhoeddodd QAA atodiad i gyd-fynd â'r llawlyfr QER sy'n esbonio'r addasiadau i'r dull cyflwyno. Ar gyfer 2021-22, mae gan ddarparwyr gyfle i ymgysylltu â QAA ar wahân ynghylch gwella ansawdd. 

  1. Mae tri chategori dyfarniad ar gyfer QER: 'yn bodloni'r gofynion hyn', 'yn eu bodloni gydag amodau', neu 'ddim yn bodloni'r gofynion'. Mae PCyDDS wedi ennill y dyfarniad uchaf sydd ar gael drwy’r broses Adolygiad Gwella Ansawdd. 

  1. Ffurfiwyd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar 18fed Tachwedd 2010 trwy uno Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin, dan Siartr Frenhinol Llambed 1828. Yn 2013, daeth Prifysgol Metropolitan Abertawe (PMA) yn rhan o PCyDDS; gyda Choleg Sir Gâr (CSG) yn 2013-14 a Choleg Ceredigion (CC) yn 2014-15 yn dod yn bartneriaid sector deuol, gan ffurfio Grŵp PCyDDS. Ers 2014, mae PCyDDS wedi bod yn dyfarnu ei gwobrau ei hun, yn hytrach na rhai Prifysgol Cymru. 

  1. Roedd y tîm arbenigol a adolygodd PCyDDS yn cynnwys yr Athro Diane Meehan, Dr Katie Thirlaway a Mr Matthew Kitching (myfyriwr adolygydd).  

  1. Mae QAA (Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch) yn elusen a chorff annibynnol y DU yr ymddiriedir ynddo i fonitro a chynghori ar safonau ac ansawdd mewn addysg uwch yn y DU. Rydym ni’n gweithio gydag, ac ar ran, ein haelodau ar draws pedair gwlad y DU, ac yn adeiladu partneriaethau rhyngwladol i wella a hyrwyddo enw da addysg uwch y DU ledled y byd. Mae mwy o wybodaeth am QAA yng Nghymru ar gael yn https://www.qaa.ac.uk/about-us/where-we-work/our-work-in-wales