CYSTADLEUAETH I CHWILIO AM DDYSGWYR DIWYDIANNAU’R TIR GORAU’R WLAD
Mae’r myfyrwyr gorau o blith y rhai sy’n gweithio ar ffermydd, gyda thyfwyr blodau neu filfeddygon neu mewn stablau, parciau neu goetiroedd ar fin cystadlu yng Ngwobrau Dysgwyr Tir Cymraeg y Flwyddyn a drefnir gan Lantra.
Mae Lantra, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer yr amgylchedd a diwydiannau’r tir wedi galw am enwebiadau ar gyfer ei wobrau blynyddol er mwyn cydnabod y rheiny sy’n datblygu eu sgiliau. Yn ôl Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru Lantra: “Mae’r gwobrau hyn yn rhoi clod i’r ffermydd, y tyfwyr blodau, y milfeddygon, y stablau, y parciau a’r coetiroedd gorau yng Nghymru. Diwydiannau tir fel y rhain yw asgwrn cefn economi Cymru a dyma’ch cyfle i gydnabod y bobl sy’n gweithio’n galed bob dydd i gynnal y maes hwn.” Gallwch enwebu dysgwyr ifanc sy’n gweithio ar y tir (16-26 oed), dysgwyr gydol oes (dros 27) neu rywun sydd wedi defnyddio arian Datblygu Sgiliau Cyswllt Ffermio i ddatblygu eu sgiliau. Cyhoeddir yr enillwyr mewn digwyddiad mawreddog yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar 29 Tachwedd. Ychwanega Kevin: “Mae 30 Medi, sef y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau, yn prysur agosáu. Gall unrhyw un enwebu, felly gwnewch hynny nawr – hwyrach mai nhw fydd un o enillwyr Gwobrau Dysgwyr Diwydiannau’r Tir.” I enwebu nawr ac am fwy o wybodaeth ewch i www.lantra.co.uk/land-based-learner-wales, ffoniwch 01982 552646 neu e-bostiwch wales@lantra.co.uk. – DIWEDD – Cyhoeddwyd gan: Vicky Brewin, Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu Ffôn: 02476 858 417, e-bost wales.media@lantra.co.uk. Nodiadau’r golygydd Gwobrau Dysgwyr Diwydiannau’r Tir Categorïau: Mae yna bum gwobr: • Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio (dros 16 oed) ar gyfer y sawl sydd wedi defnyddio Cyswllt Ffermio ers Gorffennaf 2008. • Dysgwr Ifanc y Flwyddyn Diwydiannau’r Tir (dan 26 oed) • Dysgwr Gydol Oes y Flwyddyn Diwydiannau’r Tir (dros 26 oed) Mae’r gwobrau hyn wedi eu rhannu i ddau gategori, a bydd dau enillydd o bob categori: 1. Amaethyddiaeth, dyframaeth, rheoli pysgodfeydd, peirianneg y tir, coed a phren a ffensio 2. Gofal anifeiliaid, technoleg anifeiliaid, ceffylau, pedoli, gweithgareddau milfeddygol, rheoli anifeiliaid hela a bywyd gwyllt, cadwraeth amgylcheddol, garddwriaeth cynhyrchu, garddwriaeth, tirweddu a glaswellt chwaraeon a thyfu blodau Lantra Mae Lantra, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer yr amgylchedd a diwydiannau’r tir, wedi’i drwyddedu gan lywodraeth y DU i hyrwyddo agenda newydd ym maes sgiliau, hyfforddiant a datblygu busnes. Yng Nghymru, mae’n cynrychioli dros 18,500 o fusnesau, ar draws 17 o ddiwydiannau, ac mae 99% ohonynt yn ficrofusnesau sy’n cyflogi llai na deg o bobl, gyda 94% yn cyflogi pedwar neu lai. Mae eu 85,000 o weithwyr cyflogedig yn cynrychioli 7.5 y cant o holl weithlu’r sector amgylchedd a diwydiannau’r tir yn y DU. Am fwy o wybodaeth ewch i www.lantra.co.uk. Mae’r sector yn hanfodol i economi Cymru oherwydd amcangyfrifir bod twristiaeth sy’n gysylltiedig ag amgylchedd Cymru yn werth £821 miliwn ac mae’n cefnogi 23,600 o swyddi. Mae angen 117,000 o swyddi eraill i reoli ein hamgylchedd naturiol yng Nghymru. Mae llawer o weithlu diwydiannau’r tir yn fedrus iawn mewn meysydd technegol, gyda blynyddoedd o brofiad galwedigaethol, ac yn aml, traddodiad teuluol yn gefn iddynt. Fodd bynnag, nid yw eu sgiliau wedi eu hachredu fel arfer ac nid yw eu profiad gwerthfawr yn cael ei gydnabod. Mae Lantra’n gweithio i sicrhau bod y profiad a’r sgiliau hyn yn cael eu cydnabod ochr yn ochr â chymwysterau ffurfiol a datblygiad proffesiynol ac yn helpu cyflogwyr i fanteisio ar unedau dysgu sy’n cael eu darparu mewn cyfnodau byr. Mae’r 17 diwydiant y mae Lantra yn eu cynrychioli wedi eu clystyru yn y meysydd canlynol: rheoli tir a chynhyrchu; iechyd a lles anifeiliaid; gwarchod a rheoli’r amgylchedd naturiol.
Tags: