CYSTADLEUAETH I CHWILIO AM DDYSGWYR DIWYDIANNAU’R TIR GORAU’R WLAD
Mae’r myfyrwyr gorau o blith y rhai sy’n gweithio ar ffermydd, gyda thyfwyr blodau neu filfeddygon neu mewn stablau, parciau neu goetiroedd ar fin cystadlu yng Ngwobrau Dysgwyr Tir Cymraeg y Flwyddyn a drefnir gan Lantra.Mae Lantra, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer yr amgylchedd a diwydiannau’r tir wedi galw am enwebiadau ar gyfer ei wobrau blynyddol er mwyn cydnabod y rheiny sy’n datblygu eu sgiliau. Yn ôl Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru Lantra: “Mae’r gwobrau hyn yn rhoi clod i’r ffermydd, y tyfwyr blodau, y milfeddygon, y stablau, y parciau a’r coetiroedd gorau yng Nghymru.