• news.cision.com/
  • Lantra/
  • Gallai ddigwydd i chi! Mynnwch y ‘bywyd da’ rydych wedi bod ei eisiau erioed

Gallai ddigwydd i chi! Mynnwch y ‘bywyd da’ rydych wedi bod ei eisiau erioed

Report this content

Wrth i’r tywydd gynhesu ac wrth i’r diwrnodau ymestyn, yn aml rydym yn dyheu am newid diflastod y bywyd naw tan bump am yr awyr agored gwych. Ond a yw’r ‘bywyd da’ yn ddim ond breuddwyd? Gyda dros 110,000 o gyfleoedd yn sector yr amgylchedd a’r tir, nid oes rhaid iddo fod felly.

Bydd Cyngor Sgiliau Sector Lantra wrth law yn yr Ŵyl Tyddyn a Gardd yn Llanfair-ym-Muallt (15-16 Mai) i ddangos i chi sut y gallwch gymryd y cam hollbwysig nesaf i ddod o hyd i’r yrfa a’r ffordd o fyw foddhaus honno. Meddai Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Lantra dros Gymru, “Mae cyfleoedd enfawr ar gael, pa un a ydych eisiau gweithio yn yr awyr agored, gofalu am anifeiliaid, rheoli cae cartref eich hoff glwb rygbi neu ofalu am ein planed drwy gadwraeth amgylcheddol. Mae’r ŵyl yn ffordd wych o archwilio’r ‘bywyd da’ ac, ar stondin Lantra, gallwch sgwrsio gyda’n staff a gweld sut brofiad fyddai gweithio yn y sector.” Ar stondin Lantra, bydd amrywiaeth o arbenigwyr yn dangos rhai o’r rolau cyffrous sydd ar gael ac yn cynnig cyfle i chi roi tro arni. Ar ddydd Sadwrn, bydd Claire Hyde, o wasanaeth Twtio Cŵn Classic Canine Cuts, yn trafod siswrn, bydd Andy Kehoe yn gwneud clwydi a bydd Mary Zammitt yn cynnal gweithdy gwneud clwydi helyg a chelfi i’r ardd. Ar ddydd Sul, bydd Stuart Fry yn arddangos crefft draddodiadol codi waliau sychion, tra bydd y flodeuwraig, Sian Davies o Cwtta Inspirations, yn dangos ei doniau creadigol a bydd Julie Robinson, o Blanhigfa’r Bannau, yn creu basgedi crog a thybiau planhigion. Mae’r arddangosiadau hyn a’r arddangosiad a drefnir gan Diana Lavers o Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain, i ddangos cneifio defaid mewn mannau eraill ar faes y sioe ar ddydd Sadwrn, wedi’u hariannu ar y cyd gan Lantra, NIACE Dysgu Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop 2007-2013 drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ar gyfer y rheini sydd â throed yn gadarn yn y sector eisoes, bydd Lantra hefyd yn darparu amrywiaeth o gyngor a chymorth busnes i helpu i fwyhau potensial. Parhaodd Kevin Thomas, “Gallwn eich helpu i adnabod pa hyfforddiant sydd ei angen arnoch a dod o hyd i’r cwrs hyfforddi iawn ar eich cyfer, gyda darparwyr hyfforddiant wrth law er mwyn i chi siarad â nhw yn uniongyrchol. Yn fwy na hynny, efallai y bydd cyfle gan ffermwyr a choedwigwyr i gyrchu hyfforddiant â chymhorthdal o hyd at 80% drwy Raglen Datblygu Sgiliau Cyswllt Ffermio.” Drwy Lantra, mae Cyswllt Ffermio yn cefnogi cyrsiau byr achrededig a ddarperir gan golegau a darparwyr hyfforddiant cymeradwy ledled Cymru. Mae’r cyrsiau sydd ar gael yn amrywio o gadwraeth amgylcheddol a sgiliau cefn gwlad, i weithredu cerbydau, rheoli tyrchod daear a chnofilod neu blaladdwyr. Hefyd, cynigir cyrsiau defnyddio llif gadwyn, magu da byw a sgiliau menter, fel cigyddiaeth, gwneud hufen iâ neu gaws. I gael rhagor o wybodaeth a darganfod pryd y mae’r arddangosiadau amrywiol yn digwydd, ewch i www.lantra.co.uk/wales neu anfonwch e-bost at wales@lantra.co.uk. Ariennir Cyswllt Ffermio trwy Gynllun Datblygu Gwledig 2007-2013, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cynulliad Cymru. – DIWEDD – I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Mhairi Aikman, Cydgysylltydd Cyfathrebu Ffôn: 02476 858 418 neu e-bost mhairi.aikman@lantra.co.uk. Nodiadau i’r Golygydd Gŵyl Tyddyn a Gardd (www.rwas.co.uk/en/garden-festival) • Mae’r clwydi yn agored i’r cyhoedd rhwng 9.00am a 6.00pm ar benwythnos 15 ac 16 Mai 2010. Ynglŷn â Chyswllt Ffermio • Ariennir Cyswllt Ffermio trwy Gynllun Datblygu Gwledig 2007 – 2013, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cynulliad Cymru. • Nod Rhaglen Datblygu Sgiliau Cyswllt Ffermio, a reolir gan Gyngor Sgiliau Sector Lantra, yw gwella perfformiad a rhagolygon busnesau ffermio a choedwigaeth ledled Cymru. Mae’n darparu cyllid o hyd at 80% ar gyfer cyrsiau hyfforddi achrededig byr. • Gellir cael gwybodaeth bellach am Gyswllt Ffermio ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru: http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/farmingconnect/?lang=en Ynglŷn â Lantra  O 1 Ionawr 2010 ymlaen, mae’r holl fusnesau cymwys sydd wedi cofrestru gyda Chyswllt Ffermio yn gallu cyrchu cyllid o 80% tuag at gost hyfforddiant drwy’r Rhaglen Datblygu Sgiliau a reolir gan Lantra. Dylai’r cyfraniad ychwanegol o 30% annog rhagor o ffermwyr i fanteisio ar y cyrsiau achrededig byr a’r asesiad sgiliau busnes am ddim sydd ar gael iddynt.  Mae Lantra, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer yr amgylchedd a diwydiannau’r tir, wedi’i drwyddedu gan lywodraeth y DU i hyrwyddo agenda newydd y sector ym maes sgiliau newydd, hyfforddiant a datblygu busnes. Yng Nghymru, mae’n cynrychioli dros 18,500 o fusnesau, ar draws 17 o ddiwydiannau. Mae 99% o’r rhain yn ficrofusnesau sy’n cyflogi llai na deg o bobl, gyda 94% yn cyflogi pedwar neu lai. Mae eu 85,000 o weithwyr cyflogedig yn cynrychioli 7.5 y cant o holl weithlu’r sector amgylchedd a diwydiannau’r tir yn y DU. Am ragor o wybodaeth ewch i www.lantra.co.uk  Mae’r sector yn allweddol i economi Cymru gan fod twristiaeth sy’n gysylltiedig ag amgylchedd Cymru yn werth tua £821 miliwn ac yn cefnogi 23,600 o swyddi. Mae angen 117,000 o swyddi eraill i reoli ein hamgylchedd naturiol yng Nghymru.  Mae llawer o weithlu diwydiannau’r tir yn fedrus iawn mewn meysydd technegol, gyda blynyddoedd o brofiad galwedigaethol, a thraddodiad teuluol yn aml iawn, y tu ôl iddynt. Fodd bynnag, nid yw eu sgiliau wedi’u hachredu fel arfer ac nid yw eu profiad gwerthfawr yn cael ei gydnabod. Mae Lantra’n gweithio i sicrhau bod y sgiliau a’r profiad yn cael eu cydnabod ochr yn ochr â chymwysterau ffurfiol a datblygiad proffesiynol ac yn helpu cyflogwyr i fanteisio ar unedau dysgu sy’n cael eu darparu mewn cyfnodau byr.  Mae’r 17 diwydiant mae Lantra’n eu cynrychioli wedi’u clystyru yn y meysydd canlynol: rheoli tir a chynhyrchu; iechyd a lles anifeiliaid; a gwarchod a rheoli’r amgylchedd naturiol.

Tags: