Gallai ddigwydd i chi! Mynnwch y ‘bywyd da’ rydych wedi bod ei eisiau erioed
Wrth i’r tywydd gynhesu ac wrth i’r diwrnodau ymestyn, yn aml rydym yn dyheu am newid diflastod y bywyd naw tan bump am yr awyr agored gwych. Ond a yw’r ‘bywyd da’ yn ddim ond breuddwyd? Gyda dros 110,000 o gyfleoedd yn sector yr amgylchedd a’r tir, nid oes rhaid iddo fod felly.Bydd Cyngor Sgiliau Sector Lantra wrth law yn yr Ŵyl Tyddyn a Gardd yn Llanfair-ym-Muallt (15-16 Mai) i ddangos i chi sut y gallwch gymryd y cam hollbwysig nesaf i ddod o hyd i’r yrfa a’r ffordd o fyw foddhaus honno. Meddai Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Lantra dros Gymru, “Mae cyfleoedd enfawr ar gael, pa un